Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
29 Ebrill 2024
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Mae’r Gorchymyn hwn yn:
§ Ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned a phenaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn sefydliadau addysg bellach gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
§ Gosod y ffi ar gyfer y ddau gategori cofrestru newydd hynny (£46 y flwyddyn).
§ Ei gwneud yn ofynnol i bob athro neu athrawes sy’n gweithio yn y categori athrawon addysg bellach ddal cymhwyster penodedig (ac yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor y Gweithlu Addysg adolygu’r rhestr o gymwysterau).
§ Ychwanegu ymarferwyr dysgu oedolion ac athrawon addysg bellach at y rhestr o broffesiynau a reoleiddir yng Nghymru.[1]
Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar:
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: 10 Mai 2024
[1] O dan Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023